Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Tachwedd 2016
Amser: 14.06 -
16.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3778
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Simon Dean, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Syr Derek Jones, Llywodraeth Cymru Jo Jordan, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (317KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Neil McEvoy AC sydd wedi cymryd lle Rhun ap Iorwerth AC ar y Pwyllgor. Gofynnodd y Cadeirydd i'w ddiolch i Rhun ap Iorwerth AC gael ei gofnodi.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Nododd y Pwyllgor i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Cwm Taf estyn gwahoddiad iddo fynd am sesiwn i flasu bwyd yr ysbyty, a'r broses arlwyo o'r gegin i'r claf. Cytunodd yr Aelodau i wneud hynny - bydd y clercod trefnu.
3.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i:
· anfon disgrifiad o'r cyflyrau clinigol a gaiff eu cynnwys yn y categorïau coch, ambr a gwyrdd o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambiwlans;
· anfon ffigurau pellach o ran amseroedd ymateb ar gyfer galwadau ambr, a manylion ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd ymateb ar gyfer y galwadau hyn;
· ymchwilio i sut y mae byrddau iechyd yn dygymod â gwasanaethu y tu allan i oriau meddygon teulu ac adrodd yn ôl ar hynny.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan holi Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Albert Heaney, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; a Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru am y cynnydd a wnaed.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y canlynol:
Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a'r adolygiad ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd i'w gynnal yn ystod tymor y gwanwyn 2017. Cytunwyd i ailystyried a hoffent archwilio'r fframwaith ar y trefniadau dwysáu ac ymyrraeth wedi i'r adroddiad dan sylw ddod i law.
Gofal heb ei drefnu
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd mai'r ffordd orau o symud y mater hwn yn ei flaen fyddai drwy'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG:
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a nodwyd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn edrych ar sut y mae pob bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hawliadau ar ôl iddo ddychwelyd o Bowys lle'r oedd yn cynnal adolygiad blynyddol o fyrddau iechyd.
Adolygiad o effaith practis preifat ar ddarpariaeth y GIG;
Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi'r argymhellion a dderbyniwyd o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, a gofyn hefyd i gael gwybod beth yw dyddiad cyhoeddi'r Cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig a chanllawiau i gleifion sy'n trosglwyddo o bractis preifat i restrau aros y GIG.
Gwasanaethau Orthopedig
Cytunodd yr Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros y GIG mewn Gofal Dewisol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015) ar waith, a byddant yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf ynghyd â'r diweddariadau o ran y gwasanaethau orthopedig.
9.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél ar gyfer Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.
9.2 Cytunodd Syr Derek Jones i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda rhagor o fanylion ynghylch sut y dechreuwyd mynd i'r afael â'r honiadau a wnaed gan y sawl a chwythodd y chwiban ynghylch camddefnyddio'r cynllun bws rhatach.
9.3 Diolchodd y Cadeirydd i Syr Derek Jones am fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a chyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Pedwerydd Cynulliad, a dymunodd y gorau iddo yn y dyfodol ar ran y Pwyllgor.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, ac wrth i'r Pwyllgor drafod y sesiwn ffarwél, cytunodd yr Aelodau i ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i anfon manylion pellach am Uned Gwrth-Dwyll Llywodraeth Cymru ynghyd â'i chyllideb.